ElwynJONES-GRIFFITHJONES-GRIFFITH - ELWYN. Dymuna Val, Arwel, Aled a Medwen ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt mewn gair a gweithred yn eu profedigaeth o golli gwr, tad, tad-yng-nghyfraith a thaid annwyl iawn. Roedd yr ymweliadau, galwadau ff?n a'r cardiau a dderbyniwyd (dros 400) yn gysur mawr i ni. Diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Ap?l Ambiwlans Awyr Cymru ac achosion lleol. Hoffem ddiolch hefyd i'r Parchedig Ddr. Huw John Hughes, Parch. Ioan Wyn Gruffydd, Mrs Beryl Jones ac Alun Ffred Jones am eu rhan yn y gwasanaeth yng Nghapel Soar; i staff meddygfa Llys Meddyg, staff Fferyllfa Pen-y-groes a staff Ward Aran, Ysbyty Gwynedd ble cafodd Elwyn ofal arbennig. Diolch hefyd i Enid a'r genod am luniaeth rhagorol yng nghlwb Golff Caernarfon, ac i Iolo a'r criw o Roberts & Owen am eu cefnogaeth, cymorth a'u trefniadau trylwyr ac urddasol. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Elwyn